Mae cyfarwyddwr criced Morgannwg, Matthew Maynard, wedi dychwelyd i chwarae yn yr un tîm â’i fab Tom mewn gêm gyfeillgar yn erbyn MCCU Caerdydd.
Tom Maynard sy’n arwain Morgannwg, ac ef yw gapten ieuengaf y clwb yn 21 oed a 41 diwrnod. Mae’n torri record Hugh Morris a oedd yn gapten ar y Dreigiau yn 1986 yn 22 oed a 287 o ddiwrnodau.
Roedd Matthew Maynard yn chwarae i Forgannwg am y tro cyntaf ers 2005, pan wynebodd Sir Gaerhirfryn mewn gêm un dydd.
Dyma oedd y tro cyntaf i dad a mab chwarae i Forgannwg mewn gêm sirol ers 1891 pan chwaraeodd William a Billy Bancroft yn yr un tîm yn erbyn Dyfnaint.
Ond nid dyma’r tro cyntaf i Matthew a Tom Maynard chwarae yn yr un tîm. Yn 2005 fe chwaraeodd y ddau i Gymru yn mewn gêm gyfeillgar yn erbyn tîm XI y byd.
Batiad cyntaf
Mae Morgannwg wedi cyrraedd 362 ar ôl eu batiad cyntaf gyda’r capten yn sgorio 112 o rediadau.
Fe sgoriodd Nick James 80 o rediadau wrth iddo ef a Tom Maynard greu partneriaeth agoriadol gadarn.
Fe gyrhaeddodd Matthew Maynard 46 cyn i gapten MCCU Caerdydd, Dan Bendon gipio ei wiced.
Mae’r myfyrwyr wedi cychwyn eu batiad cyntaf ac maen nhw wedi cyrraedd 43/1.