Mae cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins, wedi dweud iddo gael cyfarfod “cadarnhaol” gyda’r rheolwr Paulo Sousa.
Roedd y cadeirydd wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda Sousa i asesu’r tymor cyn cyfarfod gyda bwrdd y clwb.
“Roedd y cyfarfod yn bositif iawn. Ry’n ni wedi trafod ein tymor yn gyffredinol a’r paratoadau ar gyfer y tymor nesaf,” meddai Huw Jenkins.
“Ry’n ni wedi trafod ein barn yn agored dros yr oriau diwethaf ac roedd yn galonogol.”
Roedd sïon o anghydfod rhwng y cadeirydd a’r rheolwr dros y cyllid oedd ar gael i’w wario ar chwaraewyr newydd.
“Mae’n rhaid i bobl ddeall bod cyfarfodydd fel yma’n digwydd rhwng y bwrdd a’r rheolwr bob tymor – lle bynnag ry’n ni’n gorffen yn yr adran.
“Y neges glir ddaeth allan o’r cyfarfodydd yma oedd bod pawb yn gwbl ymroddedig i barhau gyda gwelliant cyffredinol mae’r clwb yn ei wneud flwyddyn ar ôl blwyddyn,” meddai’r cadeirydd.
Fe ddywedodd y cadeirydd bod y clwb yn bwriadu gweithio’n galed dros yr haf i gryfhau’r Elyrch ar gyfer y tymor nesaf.