Mae Abertawe wedi colli cyfle i gymryd rhan yng ngemau ail gyfle Pencampwriaeth Coca-Cola ar ôl i gôl gan Lee Trundle gael ei gwrthod yn eiliadau ola’r gêm yn erbyn Doncaster heddiw.
Er mwyn ennill lle yn y gemau ail gyfle roedd angen i’r Elyrch ennill heddiw ac i Blackpool golli.
Ond yr un hen stori oedd hi i sgorwyr isaf y gynghrair heddiw wrth i glwb Paolo Sousa orffen gyda gêm ddi-sgôr arall ar ôl i ymdrech Trundle gael ei gwrthod ar sail llawio’r bêl.
Cymaint oedd siom cefnogwyr Abertawe fel y bu’n rhaid i’r heddlu hebrwng y dyfarnwr i’w gar ar ddiwedd y gêm.
Roedd yn ddiwedd siomedig i’r tymor i’r rheolwr Paulo Sousa.
“Mae pawb yn anhapus yn yr ystafell newid gan nad ydyn ni wedi gwneud yr hyn yr oedd arnon ni ei eisiau,” meddai.
“Roedden ni’n haeddu ennill y gêm, sy’n adlewyrchu ein tymor, ac roedden ni wedi gwneud digon o gyfleoedd i ennill, ond fe wnaethon ni fethu â sgorio ac unwaith eto mae penderfyniadau dyfarnwr wedi costio’n ddrud inni.
“Dw i ddim eisiau siarad am y penderfyniad ar lawio’r bêl ond chawson ni ddim lwc heddiw.
“Roedd yn bleser gweithio gyda’r chwaraewyr yma sydd wedi rhoi popeth i’r clwb ac sy’n haeddu llawer mwy.
“Dw i’n hapus oherwydd ar ddechrau’r tymor fe ddywedais fy mod i eisiau i’r clwb orffen yn hanner uchaf yr adran ac rydyn ni wedi cyflawni hynny.”