Ni fydd colli yn erbyn Derby ar ddiwrnod olaf gemau Pencampwriaeth Coca Cola yn effeithio ar siawns Caerdydd yn y gemau ail gyfle, yn ôl y rheolwr Dave Jones.

Roedd y rheolwr wedi gwneud naw o newidiadau i’r tîm er mwyn rhoi gorffwys i chwaraewyr allweddol cyn y gem gyn-derbynol yn erbyn Caerlŷr.

O’r herwydd nid oedd Caerdydd yn chwarae cystal heddiw, a sicrhaodd Derby fuddugoliaeth o 2-0 gyda goliau gan Jay McEveley a David Martin yn yr ail hanner.

“Ar ôl llwyddo i beidio â cholli mewn 10 gêm, roedd momentwm gyda’r clwb a dyw’r canlyniad yma ddim yn golygu dim,” meddai Dave Jones.

“Mae hyder gan y clwb, ond dim gor-hyder. Fe wyddon ni beth sy’n rhaid ei wneud a byddwn yn gweithio’n galed ar gyflawni hynny.

“Bydd y gemau ail gyfle’n dibynnu’n gyfan gwbl ar haeddiant.”