Mae milwr o Brydain wedi cael ei ladd mewn ffrwydrad yn Afghanistan heddiw, yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Bu farw’r milwr o Fataliwn 1af Catrawd Mercia, a oedd yn gwasanaethu gyda’r Royal Marines, ger canolfan filwrol PB Waterloo yn Sangin, talaith Helmand.
O gynnwys y farwolaeth ddiwethaf – colled gyntaf Prydain ers bron i fis – mae cyfanswm o 282 o aelodau lluoedd arfog Prydain wedi cael eu lladd yn Afghanistan ers 2001.
Mae teulu’r milwr, nad yw wedi cael ei enwi eto, wedi cael eu hysbysu.
Llun: Arfbais Catrawd Mercia