Mae arolwg ar ran y deillion yn dangos pryder mawr ynghylch ffyrdd a strydoedd di-bafin sy’n agored i gerddwyr ac i gerbydau.

Yn ôl Cymdeithas Cŵn Tywys y Deillion, mae 9 o bob 10 o bobl ddall a rhannol ddall yn poeni am y math o gynlluniau rheoli trafnidiaeth sydd ar waith yn y Maes yng Nghaernarfon – gyda 6 allan o bob 10 yn ceisio osgoi mannau o’r fath.

Ers y llynedd mae’r cyfan o’r Maes yng Nghaernarfon yn agored i gerbydau a cherddwyr fel ei gilydd, heb unrhyw gyrbiau na marciau i’w gwahanu.

Yn wyneb yr ymchwil, mae’r AC Ceidwadol Mark Isherwood yn galw am ddatganiad gan Lywodraeth y Cynulliad ar gynlluniau strydoedd agored fel hyn.

“Mae’r ymchwil yma’n dangos fod awdurdodau lleol yn methu â chyflawni eu dyletswyddau tuag at gyfrifoldeb, gan fod rhwystrau’n cael eu gosod yn ffordd pobl â nam ar eu golwg,” meddai.

“Drwy fod yr Adran Drafnidiaeth yn San Steffan yn ystyried prosiect ymchwil manwl ar gynlluniau rhannu gofod, hoffwn gael datganiad gan Lywodraeth y Cynulliad ar y mater pwysig yma sy’n effeithio ar bobl ddall a rhannol ddall yng Nghymru.”

Llun: Y Maes, Caernarfon, sy’n agored i gerddwyr a cherbydau, heb ddim yn eu gwahanu