Pe bai Caerdydd neu Abertawe’n ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair y flwyddyn nesa’, fe allen nhw fod ar eu hennill o gymaint â £90 miliwn.
Mae cwmni cyfrifwyr Deloitte yn dweud bod yr arian y mae disgwyl i glwb ei gael am gyrraedd prif adran Lloegr wedi codi 50% o’i gymharu gyda’r tymor diwethaf.
Mae’r arian enfawr sydd ar gael yn cadarnhau mai rownd derfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth sy’n cynnig gwobr ariannol fwyaf y byd pêl-droed.
Pe bai un o glybiau Cymru yn ennill dyrchafiad fe fydden nhw’n sicr o dderbyn £40m am dymor 2010-11 o arian teledu Sky yn ogystal â chynnydd mewn incwm masnachol.
Hyd yn oed pe bai Caerdydd neu Abertawe yn disgyn allan o’r Uwch Gynghrair wedi dim ond un tymor, fe fydden nhw’n derbyn tua £50m arall mewn taliadau parasiwt dros y pedwar tymor canlynol.
Mae Caerdydd eisoes wedi ennill eu lle yn y gemau ail gyfle a, dros y Sul, fe fydd Abertawe yn cystadlu gyda Blackpool am yr un safle sydd ar ôl.