Mae Archesgob Pabyddol Caerdydd, Y Parchedig Peter Smith, wedi cael ei benodi’n Archesgob newydd Southwark yn ne Lloegr.

Fe fydd Peter Smith yn dechrau ar ei swydd newydd ar 10 Mehefin gan ddilyn y Parchedig Kevin McDonald a ymddiswyddodd yn 2009.

Cafodd Peter Smith ei benodi’n Esgob East Anglia yn 1995 cyn symud i Gaerdydd yn 2001.

“Rwy’n drist iawn fy mod i’n gadael Cymru wedi wyth blynedd hapus iawn yng Nghaerdydd,” meddai’r Parchedig Peter Smith.

“Fydda’ i byth yn anghofio cynhesrwydd a haelioni pobl Cymru, nid yn unig yn y gymuned Gatholig, ond hiwmor gwych a sirioldeb pawb yn y wlad.

“Ond rydw i’n gobeithio dychwelyd i fy ngwreiddiau yn ne Llundain ac yn mynd adref i’r Archesgobaeth lle cefais fy ngeni a lle cefais fy ordeinio’n offeiriad yn 1972.

“Mae’n braf cael dychwelyd adref ond fydda’ i’n ystyried Cymru yn gartref o gartref.”