Mae gyrrwr oedrannus o’r Unol Daleithiau yn lwcus i fod yn fyw ar ôl gyrru drwy wal ar seithfed llawr maes parcio.
Dywedodd Ralph Hudson, 67 fod ei droed wedi mynd yn sownd rhwng brêc ei gar Mercedes a’r sbardun wrth iddo geisio symud ei gar mewn garej yn Tulsa, Oklahoma.
Roedd bŵt y car wedi mynd drwy’r wal cyn iddo fedru ei atal.
Roedd cefn y bŵt ynghyd â’r olwynion cefn yn hongian allan o’r adeilad – ond fe lwyddodd staff y garej i yrru’r car yn ôl i mewn yn ddiogel.
Mae’r heddlu wedi cadarnhau na fydd Ralph Hudson yn cael ei erlyn am achosi’r difrod.