Mae senedd ranedig Gwlad Belg wedi cytuno i wahardd gwisgo’r burqa Islamaidd yn gyhoeddus.
Mae’r gyfraith newydd yn gwahardd unrhyw un rhag ymddangos yn gyhoeddus mewn dillad traddodiadol Moslemaidd sy’n “gorchuddio’r wyneb yn rhannol neu’n gyfan gwbl fel nad oes modd adnabod y person”.
Ond fe allai’r helyntion o fewn y Llywodraeth arwain at ohirio cyn cyflwyno’r ddeddf.
Chwalodd llywodraeth Gwlad Belg ar 22 Ebrill wrth i’r pleidiau Ffrangeg ac Iseldireg ddadlau dros wahanu ffiniau iaith.
‘Peryg’
Dywedodd awdur y gyfraith newydd, y Rhyddfrydwr Daniel Bacquelaine, bod gwisgo’r burqa yn beryg i ddiogelwch am ei bod yn caniatáu i bobol guddio eu hunain.
Ond er gwaethaf pryderon sawl gwlad yn Ewrop ynglŷn â’r burqa does dim llawer o ferched yn ei gwisgo.
Roedd Denmarc wedi ystyried gwahardd y burqa y llynedd ond dangosodd ymchwiliad mai dim ond dwy neu dair dynes oedd yn eu gwisgo, o blith poblogaeth o 5.5. miliwn.
Mae Ffrainc wedi gwahardd gwisgo sgarff pen Moslemaidd, capiau Iddewig a chroesau Cristnogol mewn ysgolion ers 2004.