Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi honni bod yr Etholiad Cyffredinol bellach yn ras dau geffyl – rhyngddyn nhw a’r Ceidwadwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid bod y Blaid Lafur allan o’r ras i ffurfio’r llywodraeth nesaf ar ôl i Gordon Brown ddod yn drydydd yn nadl yr arweinwyr Prydeinig neithiwr.

Yn ôl cyn arweinydd y blaid, yr Arglwydd Paddy Ashdown, roedd Nick Clegg wedi “perfformio’n dda” er gwaetha’r ffaith iddo gael amser caled ynglŷn â’u polisïau ar fewnfudo a’r ewro.

“Dw i’n dyfalu y bydd Gordon Brown yn drydydd pell yn yr etholiad,” meddai. “Roedd Mr Brown yn ymosod ar Mr Cameron, ond roedd Mr Cameron yn ymosod ar Mr Clegg.

“Mae hynny’n awgrymu i fi mai brwydr rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr yw hi, a bod Llafur allan ohoni.

“Mae Nick Clegg wedi rhoi cyfle i bobol Prydain bleidleisio am newid go iawn i’n sustem etholiadol ni a’r ffordd yr ’yn ni’n gwneud pethau.

“Dw i’n credu ac yn gobeithio y bydd pobol Prydain yn cymryd y cyfle.”

Targedu Llafur

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol y bydden nhw’n targedu seddi Llafur yn ystod wythnos olaf yr ymgyrch yn y gobaith y bydd pobol yn dewis eu cefnogi nhw yn erbyn y Ceidwadwyr.

Roedd polau piniwn preifat y blaid yn datgelu y gallai’r Democratiaid Rhyddfrydol gipio ambell i sedd “syfrdanol” yn yr etholiad, meddai ffynhonnell fewnol.

Bydd Nick Clegg yn teithio i Ogledd Ddwyrain Lloegr dros y penwythnos yn y gobaith o gipio ambell i sedd oddi ar Lafur yn y rhanbarth.

“Mae’n ardal lle mae nifer o bobol yn teimlo fod Llafur wedi eu siomi nhw,” meddai. “Mewn llefydd fel Newcastle a Hull maen nhw’n ein gweld ni yn ddewis arall yn lle’r Blaid Lafur.”

Roedd y blaid hefyd yn cadw llygaid ar seddi “tynn iawn” yn ne orllewin Lloegr lle mae’r Ceidwadwyr yn gobeithio eu cipio oddi ar y Democratiaid er mwyn sicrhau mwyafrif yn San Steffan.