Mae gan anifeiliaid “yr hawl i breifatrwydd” a ddylen nhw ddim cael eu ffilmio heb yn wybod iddyn nhw, honnodd academydd heddiw.

Yn ol Brett Mills o Brifysgol East Anglia, mae cynhyrchwyr teledu a ffilm yn anwybyddu hawliau moesol wrth greu rhaglenni natur.

Roedd un o raglenni Syr David Attenborough ar gyfer y BBC, Nature’s Great Events, yn esiampl, meddai yn ei waith ymchwil.

Dywedodd bod yr unig reolau sy’n ymwneud â darlledu rhaglen ddogfen am fywyd gwyllt yn pwysleisio na ddylai’r rhaglen dwyllo’r gwyliwr yn hytrach nag ystyried hawliau’r anifail.

Barn Brett

“Mae ein syniadau ni ynglŷn â beth sy’n deg o ran preifatrwydd yn cael ei anwybyddu yn achos anifeiliaid. Dyw hi ddim o bwys beth mae anifail yn ei wneud, mae’n gallu cael ei ffilmio,” meddai.

“Mae yna ddadl na ddylai rhai anifeiliaid, mewn rhai sefyllfaoedd, gael eu ffilmio. Ar hyn o bryd does neb yn dadlau o blaid hynny.

“Mae’n amhosib gwybod os ydi anifail yn cytuno, ond mae ymddygiad rhai anifeiliaid yn awgrymu nad ydyn nhw’n hoffi cael eu styrbio gan fodau dynol, ac mae’n werth ystyried mai awydd am breifatrwydd yw hynny.

“Pan fydd anifail yn cuddio mae cynhyrchwyr rhaglenni dogfen yn ei gweld hi’n her i’w ffilmio a byth yn holi a ddylai’r anifail gael ei ffilmio o gwbl.”