Mae’r Cynghorydd o Flaenau Ffestiniog, Gwilym Euros Roberts, yn wynebu cyfnod yn y carchar ar ôl cyfaddef iddo ymosod ar ei wraig.

Plediodd Gwilym Euros Roberts, 40, o Stryd Dorfil y dref yn euog i niwed corfforol difrifol wrth ymddangos o flaen Llys y Goron Caernarfon heddiw.

Gwadodd dau achos arall o ymosod ar 29 Mawrth, ond fe fydd y rheiny’n cael eu gadael ar y ffeil.

Wrth gyhoeddi’r dyfarniad dywedodd y barnwr Peter Heywood ei fod yn siŵr o fynd i’r carchar ac mae’r unig beth ar ôl i’w benderfynu oedd “hyd y ddedfryd”.

Fe fydd profion seiciatrig yn cael eu cynnal a’r Cynghorydd yn ymddangos o flaen y llys eto ar Fehefin 11.

Roedd wedi ymosod ar ei wraig gyda chyllyll ac, yn ôl y cyhuddiadau cynharach, wedi ymosod arni hi a dyn oedd gyda hi mewn gwesty ym Maentwrog.