Ifan Morgan Jones sy’n dweud bod dyddiau’r Prif Weinidog ar ben…
Y ‘Ddadl Economaidd’ oedd yr enw di-fflach braidd ar y drydedd ddadl rhwng arweinydd y prif bleidiau neithiwr. Efallai y byddai ‘Senedd Grog ta senedd Groeg?’ wedi bod yn well, gan mai dyna’r ddau beth oedd pob un o’r pleidiau yn ceisio ei osgoi.
Roedd hi hefyd yn gyfle i ddweud ‘hwyl fawr’ wrth Gordon Brown. Mae’r polau piniwn yn dangos ei fod o wedi methu â newid barn y cyhoedd yn y ddadl, wythnos cyn yr Etholiad Cyffredinol.
Os na fydd Llafur yn ennill mwyafrif clir, mae’n ymddangos bron yn amhosib y bydd o’n Brif Weinidog mewn wythnos, gan gofio bod Nick Clegg eisoes wedi dweud na fyddai’n fodlon i’r Democratiaid Rhyddfrydol glymbleidio gyda Llafur dan Brown.
Gyda datganiad olaf y ddadl roedd hi fel petai Gordon Brown ei hun yn cydnabod hynny. “Fel y mae pethau nawr, ymhen wyth niwrnod fe allai David Cameron, efallai gyda chefnogaeth Nick Clegg, fod mewn pŵer,” meddai.
Rhybudd oedd o wrth gwrs, ond efallai hefyd ei fod yn gyfaddefiad gan un o ddynion mwyaf stwbwrn gwleidyddiaeth Prydain fod y gêm ar ben.
Er gwaethaf neb a dim
Mae Gordon Brown wedi dweud erioed ei fod o’n benderfynol o lwyddo er gwaethaf pawb a phopeth.
Ers colli ei olwg yn un llygad a 70% o’i olwg yn y llall yn 16 oed mae o wedi brwydro ymlaen yn erbyn y ffactorau. Ond beth sydd wedi ei ddal o yn y pen draw ydi bod gwleidyddiaeth wedi newid – personoliaeth nid polisïau sy’n bwysig erbyn hyn.
Dw i ddim yn credu fod dadleuon arweinwyr y prif bleidiau wedi troi’r ymgyrch etholiadol yn rhyw fath o X Factor gwleidyddol.
Mae pleidiau gwleidyddol yn ymosod ar bolisïau ei gilydd yn gyson drwy gydol yr ymgyrch ar ffurf datganiadau i’r wasg ond dim ond mymryn o hynny sy’n diferu i lawr at y cyhoedd. Roedd y dadleuon yn gyfle i weld arweinwyr y pleidiau yn dadlau go iawn ynglŷn a polisiau pa blaid oedd y gorau.
Nid y dadleuon oedd y broblem, o reidrwydd, ond sut y mae’r cyhoedd wedi ymateb iddyn nhw. Er mai Gordon Brown a aeth i fwyaf o ddyfnder wrth drafod yn benodol beth yw polisiau ei blaid ym mhob un o’r dadleuon, mae o wedi dod yn drydydd pell ym mhob un.
Yn y cyfamser, mae David Cameron a Nick Clegg wedi ennill dadl yr un a rhannu’r ail drwy gyffredinoli ac osgoi ateb y cwestiynau anodd. Gofynnodd Gordon Brown i David Cameron gyfiawnhau torri’r dreth etifeddu sawl gwaith neithiwr ond fe wnaeth y Ceidwadwr ei anwybyddu bob tro. Yn ôl y polau piniwn Cameron a ‘enillodd’ y ddadl.
Dyw hyn ddim wrth gwrs yn golygu y byddai Nick Clegg nag David Cameron yn waeth Prif Weinidog na Gordon Brown, na bod eu polisiau yn waeth na rhai Llafur. Ond does fiw i’r cyhoedd gwyno mai bai’r cyfryngau yw hi am roi blaenoriaeth i bersonoliaeth yn hytrach na pholisi. Y cyhoedd sy’n gwobrwyo personoliaeth yn hytrach na thrafodaeth gall ynglŷn â pholisi.
Y mwyd(r)yn
Wrth wylio’r ‘mwydyn’ ar wefan y BBC oedd yn dangos ymateb y cyhoedd i beth oedd pob un o’r arweinwyr yn ei ddweud, roedd hi’n amlwg nad oedd pwynt i Gordon Brown ddadlau ei achos.
Roedd y ‘mwydyn’ yn troi am i lawr cyn iddo ddechrau siarad bron, ac yn troi am i fyny cyn i Cameron a Clegg agor eu cegau. Faint bynnag y mae pobol yn cwyno am wleidyddion slic a PR, mae’n amlwg mai dyna y maen nhw ei eisiau yn y bôn.
A dyw canolbarth Lloegr erioed wedi cymryd at Brown, o bosib am ei fod o’n Sgotyn. Dyna un ‘bigotgate’ nad ydi’r cyfryngau’n fodlon trafod.
Ond dyna ni. Efallai mai y tu ôl i ddrws Rhif 11 Stryd Downing yr oedd lle Gordon Brown erioed. Mewn oes AB (ar ôl Blair) fydd gan Brif Weinidog sy’n rhoi polisi o flaen personoliaeth fyth obaith eto.