Mae gwahardd mephedrone wedi gwneud i bobol chwlio am gyffuriau cyfreithlon eraill i gymryd ei le, yn ôl rheolwr Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Cymru.

Mae Janet Roberts yn rhagweld mai cyffur o’r enw NRG1 fydd y ‘Meow Meow’ newydd, meddai wrth Golwg 360.

Mae “llawer o sôn yn y diwydiant am y ‘legal high’ nesaf,” meddai. Dywedodd ei bod hi’n pryderu ei fod “allan yn barod”, sef NRG1 neu naphyrone, sy’n debyg i methamphetamine.

“Os ydych chi’n edrych ar y fforymau cyffuriau, mae’n hawdd gweld fod pobol yn ei ddefnyddio’n barod,” meddai cyn dweud mai “dyma’r cyffur sy’n achosi’r holl drafferth yn America ar hyn o bryd”.

“Mae sôn amdano yn America fel cyffur sy’n lladd celloedd yr ymennydd,” meddai. “Dyma’r broblem wrth wahardd pethau … mae pobol jest yn newid cyfansoddiad y cyffuriau.”

Dywedodd bod y cyflenwad cyfreithlon o mephedrone wedi “hen sychu” a’i bod yn pryderu “y bydd pobl yn mynd at werthwyr cyffuriau”.

Arestio dyn ac atgoffa am mephedrone

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi neges heddiw yn ”atgoffa pobl fod mephedrone yn anghyfreithlon”, gan ddweud eu bod nhw eisoes wedi arestio a rhybuddio un person.

Fe ddywedodd llefarydd eu bod yn “cymryd camau positif yn erbyn cyffuriau anghyfreithlon ac mae mephedrone wedi ei gynnwys yn y categori hwn yn awr”.

Mae sgil effeithiau negyddol mephedrone yn cynnwys anawsterau anadlu, trwyn gwaed, cyfog, iselder ysbryd, seicosis, bysedd oer neu las a phennau tost neu gur pen difrifol.

Mae meddu ar mephedrone yn drosedd a allai arwain at hyd at bum blynedd o garchar. Ond, mae’r ddedfryd yn llawer trymach am werthu’r cyffur i rywun arall – hyd at 14 blynedd.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu nad yw “werth y risg”.