Mae rhywun wedi mynd ati i ail baentio wal Cofiwch Dryweryn unwaith eto dros nos.
Bore dydd Mercher daeth i’r amlwg fod y wal eiconig ger Llanrhystud wedi ei ddifetha gan graffiti.
Ond heddiw datgelwyd fod rywun wedi ail baentio’r wal, gan ei arwyddo gyda symbol Cymdeithas yr Iaith a’r dyddiad eleni.
Cafodd y wal ei phaentio’n wreiddiol gan y llenor Meic Stephens, tad y DJ Huw Stephens sy’n gyflwynydd ar BBC Radio 1, yn 1965.
Mae hi wedi ei hail baentio sawl gwaith ers hynny, unwaith gan yr actor Rhys ap Hywel yn 1991.
Mae cynlluniau ar waith i atgyweirio’r hen wal sydd mewn peryg o ddisgyn. Mae’r wal, a oedd yn rhan o dŷ fferm dros ganrif yn ôl, ar ochr ffordd yr A487 rhwng Aberystwyth a Llanrhystud.
Nod yr ymgyrch ‘Cadwn y Mur’ ydi codi £50,000 er mwyn cynnal a gwarchod y wal eiconig.
Mae’r ymgyrch yn apelio ar bobl i noddi un garreg am £50, gydag enwau’r cyfranwyr yn cael ei nodi ger y wal.
Y wal dydd Mercher: