Mae’r Cymro, Simon Davies, yn gobeithio ei fod wedi gwneud iawn am ffydd ei reolwr ynddo wrth sgorio un o’r goliau i fynd â Fulham i mewn i rownd derfynol Cynghrair Europa.

Roedd y chwaraewr canol cae wedi colli dechrau’r tymor gydag anaf ond fe gafodd ei le yn ôl gan Roy Hodgson ac mae wedi helpu’r clwb o Lundain i’w ffeinal Ewropeaidd gynta’.

Davies a gafodd y gynta’ o goliau Fulham wrth iddyn nhw guro Hamburg o 2-1 yn Craven Cottage neithiwr. Roedden nhw’n colli 1-0 nes i Davies sgorio yn yr ail hanner.

‘Anodd dychmygu’

“Ro’n i mas am dri neu bedwar mis,” meddai Simon Davies wrth y BBC ar ôl y gêm. “Mae’n anodd dychmygu sut y mae heno o feddwl yn ôl am hynny.

“Fe roddodd y rheolwr fi’n ôl yn y tîm a gobeithio fy mod wedi talu’n ôl iddo heno.”

Roedd y chwaraewr 31 oed o Hwlffordd yn canmol y tîm i’r cymylau am lwyddo unwaith eto i guro un o glybiau mawr Ewrop ar ôl bod ar ei hôl hi.