Mae protestwyr yn Athens wedi gwrthdaro gyda’r heddlu wrth iddyn nhw geisio torri i mewn i adeilad gweinyddiaeth cyllid Gwlad Groeg.
Roedd y protestwyr yn anhapus wrth i lywodraeth y wlad awgrymu y byddai’n rhaid torri gwasanaethau cyhoeddus ymhellach er mwyn sicrhau arian gan yr Undeb Ewropeaidd.
Ddoe roedd y Prif Weinidog George Papandreou wedi cyfarfod gyda chynrychiolwyr undebau llafur y wlad gan awgrymu y byddai’r toriadau “yn llym iawn”.
“Fe roddodd flas i ni o’r toriadau llym, toriadau a fydd yn ein harwain ni i mewn i ddirwasgiad arall,” meddai Yiannis Panagopoulos, pennaeth undeb pwerus GSEE wrth asiantaeth newyddion Associated Press. Mae’r undebau wedi galw streic gyffredinol ar 5 Mai.
Undeb Ewropeaidd yn agos at benderfynu
Yn y cyfamser mae’r Undeb Ewropeaidd wedi dweud eu bod yn agos at ddod i benderfyniad er mwyn myn i’r afael â diffyg ariannol anferthol Gwlad Groeg.
Mae swyddogion yr Undeb Ewropeaidd, y Gronfa Arian Ryngwladol, a Banc Canolog Ewrop yn Athens er mwyn cytuno ar becyn achub.
Mewn cyfarfod gyda’r wasg dywedodd comisiynydd yr Undeb Ewropeaidd, Jose Manuel Barroso ei fod yn “hyderus y bydd y trafodaethau yn dod i gasgliad yn fuan, o fewn y dyddiau nesaf”.
Ychwanegodd y byddai’r ateb yn rhwystro problemau Gwlad Groeg rhag “lledu i wledydd eraill”.
Mae llawer o bobol Gwlad Groeg yn anhapus oherwydd eu bod nhw’n gorfod talu’r pris am drafferthion ariannol rhyngwladol ac am yr hyn y maen nhw’n ei ystyried yn gamweinyddu gan un llywordaeth ar ôl y llall.