Wrth i fanc Barclays wedi gweld cynnydd anferth yn ei elw yn ystod tri mis cynta’r flwyddyn, mae pennaeth banc arall wedi cyfadde’ bod cyflogau bancwyr yn “syfrdanol o uchel”.
Fe gyhoeddodd Barclays eu bod wedi gwneud mwy nag £1.8 biliwn yn nechrau 2010 – tua 90% yn fwy na’r flwyddyn gynt. Ac roedd hynny’n cynnwys perfformiad cry’ iawn gan yr adain fuddsoddi.
Cadeirydd banc arall, yr RBS, sydd wedi corddi’r dyfroedd tros gyflogau, trwy ddweud ar un o raglenni’r BBC bod y taliadau’n uchel iawn.
Ond, yn ôl Syr Philip Hampton, mae’n rhaid talu cyflogau o’r fath neu golli’r gweithwyr gorau.
Y Llywodraeth sydd bellach yn berchen ar 83% o’r RBS ond fe gyhoeddwyd y gallai ei Brif Weithredwr, Stephen Hester, dderbyn taliadau bonws o gymaint â £4.8 miliwn.