Mae ysbyty mawr ym mhrifddinas Gwlad Thai wedi ei wagio heddiw ar ôl i brotestwyr yn erbyn y llywodraeth dorri i mewn iddo.

Bu’n rhaid symud cleifion allan o’r adeilad ac atal bob llawdriniaeth ond rhai hanfodol wrth i’r protestwyr chwilio am swyddogion diogelwch yr oedden nhw’n credu oedd yn cuddio yno.

Torrodd y Crysau Coch, sy’n galw am ddileu senedd y wlad a chynnal etholiadau newydd, i mewn i’r ysbyty er gwaethaf cais gan gyfarwyddwyr yr ysbyty i beidio ag ymyrryd yno.

Gadawodd y protestwyr ar ôl methu a dod o hyd i unrhyw filwyr neu heddlu yn yr adeilad.

Mae un o arweinwyr y Crysau Coch, Weng Tojirakarn, sy’n ddoctor, wedi ymddiheuro ar ôl i tua 100 o brotestwyr dorri i mewn i’r ysbyty. Dywedodd eu bod nhw wedi “mynd yn rhy bell”.

Crysau melyn

Mae’r Crysau Coch, a ddechreuodd eu protest ar 12 Mawrth, wedi mynd yn groes i’r awdurdodau bob gafael, gan dorri i mewn i adeilad y senedd a gorsaf ddarlledu, yn ogystal ag atal llif traffic a threnau.

Mae o leiaf 27 o bobol wedi marw a 1,000 wedi eu hanafu o ganlyniad i’r trais ar strydoedd Bangkok.

Wrth ymateb i’r digwyddiad galwodd y Crysau Melyn, sy’n cefnogi’r llywodraeth, i’r fyddin ymosod ar y protestwyr sy’n achosi “anarchiaeth” yn y brifddinas.

Rhybuddiodd arweinydd y Crysau Melyn, Chamlong Srimuang, y byddai rhyfel cartref yn dilyn pe na bai’r Crysau Coch yn cael eu hatal gan y fyddin.

Mae’r Crysau Melyn yn cynrychioli elit busnes a biwrocrataidd Gwlad Thai, tra bod y Crysau Coch yn bennaf o ardaloedd gwledig a thlawd tu allan i’r brifddinas.