Ar ôl i ddyn gael ei ladd mewn caiac yn Ynys Môn, mae gweithwyr achub wedi rhybuddio pobol sy’n mynd ar gychod i wisgo siacedi achub a chario offer diogelwch.
Mae’n ymddangos bod cwch y dyn 33 oed wedi dymchwel yn y môr ger Aberffraw a bod llanw cry’ wedi ei rwystro rhag cyrraedd y lan.
Roedd dynes leol wedi galw Gwylwyr y Glannau yng Nghaergybi i ddweud fod y dyn mewn trafferthion ac fe gafodd bad achub, tîm gwylwyr y glannau a hofrennydd eu hanfon yno.
Er bod criw’r hofrennydd wedi codi’r dyn o’r dŵr a’i gludo i Ysbyty Gwynedd Bangor, fe ddaeth cadarnhad ei fod wedi marw.
Wedi’r digwyddiad ddydd Mercher, fe gadarnhaodd y gweithwyr achub nad oedd hi’n ymddangos fod gan y dyn siaced achub nac unrhyw offer diogelwch arall.
“Rydan ni’n annog unrhyw un sy’n ymgymryd â’r math hwn o weithgaredd i wisgo siaced achub a defnyddio’r offer diogelwch cywir,”meddai Jim Paton, Rheolwr Canolfan Achub Caergybi.