Ymosododd ffarmwr ar bump o blant ysgol gynradd gyda morthwyl cyn llosgi ei hun i farwolaeth yn nwyrain China heddiw – y diweddaraf mewn cyfres o ymosodiadau erchyll ar blant.

Defnyddiodd yr ymosodwr feic modur i dorri gât ysgol yn ninas Weifang rhanbarth Shandong, cyn taro athro a defnyddio morthwyl i ymosod ar y plant.

Yn ôl asiantaeth newyddion Xinhua roedd wedi gafael mewn dau o’r plant cyn tywallt petrol dros ei gorff a’i roi ei hun ar dân.

Llwyddodd athrawon yn ysgol gynradd Shangzhuang i dynnu’r plant oddi arno a’u hachub.

Ffermwr lleol

Yn ôl Xinhua, ffermwr lleol o’r enw Wang Yonglai oedd y dyn ond doedd dim manylion eraill.

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres hir o ymosodiadau ar blant ysgol. Ddoe roedd dyn digartref 47 oed o’r enw Xu Yuyuan wedi anafu 29 o ddisgyblion rhwng pedair a pum mlwydd oed yn ninas Taixing yn rhanbarth Jiangsu.

Roedd ymosodiadau tebyg dydd Mercher a fis diwethaf ac, yn ôl arbenigwyr, mae’n debygol bod yr ymosodwyr yn dilyn esiampl ei gilydd.

Does dim gofal da iawn ar gyfer pobol gydag afiechydon meddwl yn y wlad ac mae nifer o bobol hŷn yn teimlo eu bod nhw wedi eu gadael ar ôl mewn cymdeithas sy’n newid yn gyflym.