Fe fydd mam-gu 63 oed yn gorffen taith o 26 marathon mewn 26 diwrnod yn Llanelli heddiw.

Mae Rosie Swale Pope o Ddinbych-y-Pysgod wedi bod yn rhedeg ar draws rhannau o Loegr a Chymru er mwyn codi arian at ddwy elusen blant.

Fe ddechreuodd hi redeg o Sir Benfro ddydd Llun y Pasg ac mae wedi rhedeg marathon gyfan bob dydd ers hynny.

Fe fu cefnogwyr a rhai pobol adnabyddus yn ymuno gyda hi ar rai o’r teithiau ac roedd blog ar ei gwefan hyn dilyn ei thaith.

Mae hi’n codi arian at ddau hosbis – Tŷ Hafan yng Nghymru a Helen and Douglas House yn Rhydychen.

Nid dyma’r tro cynta’ i’r anturwraig fentro ar daith anferth – rhwng 2003 a 2008, fe redodd 20,000 o filltiroedd o amgylch y byd.

Llun: Rosie Swale Pope ddoe (oddi ar ei gwefan www.rosies26marathonsin26days.co.uk)