Fe allai treth incwm orfod codi cymaint â 6 ceiniog yn y bunt yn ystod y deng mlynedd nesa’.
Dyna broffwydoliaeth un o’r prif gyrff ymchwil, y NIESR – Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.
Yn ôl un cwmni gyfrifwyr, fe fyddai hynny’n golygu bod pobol sy’n ennill cyflog nodweddiadol o £25,000 yn talu £1,100 yn fwy bob blwyddyn.
Mae’r Sefydliad Ymchwil yn rhybuddio bod rhaid gwneud mwy nag y mae’r pleidiau wedi’i addo i dorri ar lefelau benthyg y Deyrnas Unedig.
“Ar ôl argyfwng, mae’n rhaid ailadeiladu’r amddiffynfeydd ar gyfer yr argyfwng nesa’,” meddai ei adroddiad.
Roedd hefyd yn proffwydo y byddai diweithdra trwy wledydd Prydain yn codi i uchafswm o 2.7 miliwn y flwyddyn nesa’ ac y byddai cyflogau’r sector cyhoeddus yn gostwng 1% bob blwyddyn am bum mlynedd.
Cwmni cyfrifwyr Deloitte sydd wedi dadansoddi’r ffigurau gan awgrymu y byddai bil treth rhywun ar gyflog nodweddiadol yn codi o £3,700 y flwyddyn i £4,800.