Mae’r clwt olew anferth yng Ngwlff Mexico wedi cyrraedd arfordir yr Unol Daleithiau, wrth i arbenigwyr gyfaddef ei fod bum gwaith yn fwy nag yr oedden nhw wedi meddwl.

Erbyn hyn mae’r bibell nwy sydd 40 milltir oddi ar arfordir yr Unol Daleithiau yn gollwng 200,000 galwyn, neu 5,000 casgen, o olew bob dydd.

Mae’n bosib felly mai dyma fydd y trychineb olew mwyaf yn hanes yr Unol Daleithiau, hyd yn oed yn waeth na’r 11 miliwn o alwyni a ollyngwyd o’r llong Exxon Valdez yn Alaska yn 1989.

Cyrraedd y lan

Heddiw cyrhaeddodd olion cyntaf yr olew aber afon Mississippi, wrth i warchodwyr bywyd gwyllt geisio gosod rhwystrau er mwyn atal yr olew rhag cyrraedd tir corsiog sy’n llawn bywyd gwyllt.

“Mae’n bryder mawr,” meddai David Kennedy o’r Gymdeithas Gefnforol ac Atmosfferig Cenedlaethol.

“Rydw i’n ofnus. Mae hwn yn beth mawr, mawr iawn. A bydd angen ymdrech anferth os ydyn ni am lwyddo i wneud unrhyw beth am y peth.”


‘Celwydd’

Dechreuodd yr olew ollwng ar ôl i blatfform Deepwater Horizon, sy’n eiddo i gwmni BP, ffrwydro a suddo wythnos yn ôl. Mae’r olew’n bygwth cannoedd o fathau gwahanol o bysgod, adar a bywyd gwyllt arall ar hyd arfordir y Gwlff.

Dywedodd pysgotwr o Venice, Louisiana, nad oedd yn gwybod a ddylai feio gwylwyr y glannau, y llywodraeth ynteu BP am y trychineb.

“Fe wnaethon nhw ddweud celwydd. Roedden nhw wedi dweud ei fod yn golwg 1,000 casgen y diwrnod er eu bod nhw’n gwybod bod yna fwy. Wnaethon nhw ddim mynd i’r afael gyda’r broblem yn syth,” meddai.

“Yr eiliad y ffrwydrodd [y platfform] fe ddylen nhw fod wedi ei amgylchynu i atal yr olew rhag dianc.”

Mae Gwylwyr y Glannau wedi awgrymu y dylai BP ofyn am fwy o adnoddau gan Weinyddiaeth Amddiffyn yr Unol Daleithiau, ac mae’r Arlywydd Barack Obama wedi awgrymu bod y Llywodraeth yn barod i helpu.

Dywedodd Barack Obama y byddai’r Tŷ Gwyn yn defnyddio “pob adnodd oedd wrth law” er mwyn ymateb. Ond dywedodd y Tŷ Gwyn mai BP fyddai’n talu’r pris.