Cwmni o Ynys Manaw fydd yn gyfrifol am y gwasanaeth awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn, wrth iddo ailddechrau ymhen ychydig tros wythnos.
Mae Manx2.com wedi ennill yr hawl i gynnal y gwasanaeth am saith mis ar ôl i’r cariwr cynharach fynd i drafferthion ariannol.
Doedd dim gwasanaeth wedi bod ers cyn y Pasg – mae’r awyrennau’n hedfan yn ôl ac ymlaen rhwng Maes Awyr Caerdydd a maes awyr y Fali.
Yn y cyfamser, fe fydd Llywodraeth y Cynulliad yn cyhoeddi tendr ar gyfer cytundeb i gynnal y gwasanaeth am bedair blynedd.
Fe fydd y teithiau’n ail ddechrau ar Fai 10 a’r disgwyl yw y bydd hi’n bosib dechrau archebu tocynnau’n fuan.
‘Ieuanair’
Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw am gael gwared ar y gwasanaeth, sy’n costio £800,000 y flwyddyn o arian cyhoeddus. Y llysenw ar y gwasanaeth yw ‘Ieuanair’ ar ôl y Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones, sy’n gefnogwr brwd.
Fe fydd Manx2.com yn cynnal y gwasanaeth gyda phartner, FLM Aviation, ac mae’n golygu bod y cwmni’n hedfan i bob rhan o wledydd Prydain ond yr Alban.
Mae’r cwmni eisoes yn cynnal gwasanaethau o Ynys Manaw i ddinasoedd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon ac maen nhw newydd sefydlu gwasanaeth i Gorc a Galway yn Iwerddon.