Y Ceidwadwr, David Cameron, a enillodd dadl ola’r arweinwyr gwleidyddol Prydeinig, yn ôl y polau piniwn beth bynnag.

Roedd pob un o’r arolygon a gymerwyd yn union wedi’r ddadl yn ei roi ef ar y blaen gyda’r Prif Weinidog, Gordon Brown yn ola’ yn y rhan fwya’ ohonyn nhw.

O gymryd y cyfan at ei gilydd, roedd David Cameron ar 38, Nick Clegg o’’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 32 a Gordon Brown o’r Blaid Lafur ar 26.

Dyw hi ddim yn glir eto beth fydd effaith hynny ar fwriad pleidleisio pobol ond mae’r bwcis wedi dechrau torri’r pris ar fwyafrif clir i’r Ceidwadwyr.

Wedi’r ddadl roedd Plaid Cymru’n condemnio’r cyfan ohonyn nhw am fethu â sôn am Gymru na chydnabod bod ganddi hi anghenion arbennig ynghanol y toriadau gwario.

Fe ddywedodd Ieuan Wyn Jones fod angen cywiro’r diffyg yn yr arian cyhoeddus sy’n dod i Gymru.

Y prif bwyntiau

Gan mai hon oedd y ddadl ola’, fe wnaeth y tri arweinydd yn glir beth oedd eu safbwyntiau sylfaenol.

Fe geisiodd David Cameron estyn allan at gefnogwyr y pleidiau eraill gan bwysleisio eu bod eisiau gofalu am y mwya’ anghenus a’r di-fraint.

Roedd Gordon Brown yn rhybuddio y byddai’r Ceidwadwyr yn peryglu’r economi ac nad oedd yr un o’r ddwy blaid arall yn barod i lywodraethu.

Roedd neges Nick Clegg yn adleisio neges Barack Obama yn yr Unol Daleithiau yn dweud ei bod yn bosib cael newid.

Y prif ddadleuon

Er mai’r economi oedd prif bwnc y ddadl, roedd y gwrthdaro mwya’ tros fewnfudo gyda David Cameron a Nick Clegg yng ngyddfau’i gilydd.

Roedd y Ceidwadwyr yn cyhuddo’r Democratiaid o agor y drysau trwy gynnig amnesti i bobol sydd yma’n anghyfreithlon ers mwy na deng mlynedd.

Yn ôl y Democratiaid, fyddai bwriad y Ceidwadwyr i osod ‘cap’ ar fewnfudo yn gwneud dim i atal yr 80% o fewnfudwyr sy’n dod o’r Undeb Ewropeaidd.

Tros drethi yr oedd y prif ddadleuon economaidd – y ddau arall yn ymosod ar David Cameron tros ei fwriad i dorri treth etifeddu “i filiwnyddion” ac yntau unwaith eto’n cyhuddo Llafur o gynllunio “treth ar swyddi” trwy godi cyfraniadau yswiriant gwladol.

Wnaeth yr un o’r arweinwyr egluro’n union faint o doriadau gwario a faint o gynnydd mewn trethi fydd ei angen.

Beth nesa

Fwy nag unwaith, fe awgrymodd Gordon Brown fod posibilrwydd y gallai Llafur golli.

Fe ddywedodd na fyddai fyth yn taro bargen gyda’r Ceidwadwyr oherwydd eu bwriad i dorri credydau trethi – heb ddweud dim am y Democratiaid Rhyddfrydol sy’n cynllunio’r un peth.

Wrth gloi hefyd, fe soniodd am y posibilrwydd o’r Ceidwadwyr yn llywodraethu, gyda chymorth y Democratiaid Rhyddfrydol.

Ar ôl y ddadl, fe ddywedodd y Prif Weinidog wrth rali o’i gefnogwyr y byddai’n rhaid iddyn nhw ymgyrchu’n galetach nag erioed o’r blaen yn ystod y dyddiau nesa’.

Mewn rali arall fe ddywedodd David Cameron, “Mae’r wlad hon yn crefu am newid a rhaid i ni egluro mai’r unig ffordd o gael hynny yw trwy lywodraeth Geidwadol.”

Llun: Y tri arweinydd ar ddiwedd y ddadl ola’ (Gwifren PA)