Mae Heddlu De Cymru’n parhau i ymchwilio i farwolaeth anesboniadwy dyn yn Aberpennar ac yn apelio ar i dystion gysylltu gyda nhw.
Maen nhw eisiau siarad yn arbennig gyda dyn a dynes a ddaeth i Orsaf Heddlu Aberpennar i roi gwybod iddyn nhw am y corff.
Fe ddaeth yr heddlu o hyd i’r dyn am bump y bore yn Ffordd Jeffrey, Aberpennar.
Fe gafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Tywysog Siarl, Merthyr, lle y bu farw.
Mae ymchwiliadau’r heddlu’n parhau wrth iddyn nhw geisio deall beth oedd amgylchiadau ei farwolaeth – sy’n cael ei hystyried yn ‘anesboniadwy’ ar hyn o bryd.
Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth bellach gysylltu â Gorsaf Heddlu Aberdâr ar 101.