Mae Llafur a’r Torïaid wedi gwrthdaro ynglŷn â’u polisïau ar gefn gwlad heddiw wrth iddyn nhw ddechrau ar saith diwrnod olaf yr Etholiad Cyffredinol.
Mae Llafur wedi lansio siarter ar gyfer Cefn Gwlad sy’n cynnwys creu Ombwdsmon Archfarchnadoedd er mwyn sicrhau pris teg ar gyfer cynnyrch ffermwyr.
Ond mae’r Ceidwadwyr wedi taro’n ôl gan dynnu sylw at dranc swyddfeydd post cefn gwlad o dan reolaeth Lafur, gan ddweud bod traean o swyddfeydd gwledig Cymru wedi cau ers 1999.
Ymatebodd Llafur drwy addo buddsoddi mewn band eang cyflym ar gyfer cefn gwlad a chreu Banc y Bobol sy’n seiliedig ar rwydwaith y llythyrdai.
Diogelu tai
Wrth ymweld â Siop Fferm yn Sir Benfro ymosododd Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, ar y Ceidwadwyr am wrthwynebu Gorchymyn Tai Llywodraeth y Cynulliad.
Byddai’r Gorchymyn wedi rhoi pwerau i Lywodraeth y Cynulliad gael gwared ar hawl tenantiaid tai cymdeithasol i’w prynu nhw.
“Mae’r Blaid Lafur wedi lansio siarter radicalaidd ar gyfer cefn gwlad Cymru, a fydd yn sicrhau swyddi a’r cyflenwad tai ar hyd a lled y wlad,” meddai Peter Hain.
“Fe fyddai’r Ceidwadwyr ar y llaw arall yn dechrau torri o’r diwrnod cyntaf ac fe fydd hynny yn niweidio pob teulu a busnes yng nghefn gwlad Cymru.”
‘Colli 351 llythyrdy’
Mae’r Ceidwadwyr wedi cyhoeddi gwaith ymchwil sy’n dangos bod Cymru wedi colli 351 swyddfa bost wledig allan o 1,045 ers 1999.
“Mae colli swyddfa bost yn cael effaith mawr ar gymunedau lleol ac yn cymryd gwasanaethau hanfodol oddi arnyn nhw,” meddai Ysgrifennydd Cymru’r wrthblaid Cheryl Gillan.
“Dros y degawd diwethaf mae’r Blaid Lafur wedi camu’n ôl a chaniatáu i hyn ddigwydd, yn enw ‘moderneiddio’.”