Mae chwaraewr Gleision a Chymru, Bradley Davies, wedi cael ei gynnwys ar y rhestr fer am ddwy o wobrau chwaraewr y flwyddyn Cymdeithas Chwaraewyr Proffesiynol Cymru.

Mae’r clo wedi cael ei enwi ar restr fer Chwaraewr y Flwyddyn a Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn.

Y lleill ar restr Chwaraewr y Flwyddyn yw asgellwr y Gweilch, Tommy Bowe, wythwr y Gleision, Xavier Rush, a chwaraewr y Dreigiau, Aled Brew.

Chwaraewyr proffesiynol Cymru fydd yn dewis yr enillwyr ond does ganddyn nhw ddim hawl i bleidleisio dros aelodau o’u rhanbarth nhw eu hunain.

Cafodd Bradley Davies ganmoliaeth fawr am safon ei chwarae tros Gymru yn erbyn Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ychydig ddyddiau ar ôl marwolaeth ei fam.

Yng nghategori Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn, fe fydd yn cystadlu yn erbyn maswr y Dreigiau, Jason Tovey, a bachwr y Scarlets, Ken Owens.

Fe ddaeth Owens i’r amlwg y tymor hwn wedi iddo gael y cyfle i lanw’r bwlch pan oedd y Llew, Matthew Rees, wedi’i anafu.

Cafodd gyfle yn y tîm rhyngwladol hefyd yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Nigel Davies ar Ken Owens

“Mae Ken yn esiampl arbennig o’r hyn r’yn ni’n gweithio tuag ato yma yn y Scarlets. Mae’n dalent ifanc lleol sydd wedi datblygu trwy system yr academi,” meddai Nigel Davies.

“Mae e’ wedi chwarae’n dda yn ystod y tymor. Mae’n Scarlet poblogaidd, mae ganddo agwedd arbennig ac mae e’n ased i’r tîm.”