Mae’r Gweilch wedi beirniadu Cynghrair Magners tros y trefniadau ar gyfer gêm olaf y tymor arferol.
Fe fydd rhaid i’r rhanbarth aros tan ar ôl gêm olaf clwb Pêl-droed Abertawe yn y Bencampwriaeth cyn cael gwybod pryd y byddan nhw’n wynebu’r Dreigiau.
Pe bai Abertawe yn sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle, fe fyddai’r Gweilch yn chwarae’r Dreigiau ar 9 Mai.
Ond pe bai tîm Paulo Sousa yn methu â gorffen y tymor yn y chwech uchaf, yna fyddai’r Gweilch yn herio’r Dreigiau ar 7 Mai.
Mae’r Gweilch wedi beirniadu’r trefniant gan ddweud bod yr ansicrwydd wedi effeithio ar baratoadau’r tîm a’r cefnogwyr.
“R’yn ni’n siomedig iawn gyda threfniant y gêm bwysig hon, a’r diffyg hyblygrwydd a dealltwriaeth ar ran y Gynghrair Geltaidd a’n partneriaid darlledu,” meddai datganiad gan y Gweilch.
“R’yn ni’n credu eu bod nhw wedi tanseilio integriti Cynghrair Magners.”