Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones, a’r chwaraewr canol cae, Peter Whittingham, wedi cael eu cynnwys ar restr fer Rheolwr a Chwaraewr y Mis ar gyfer y Bencampwriaeth.

Mae Dave Jones wedi arwain yr Adar Glas i’r gêmau ail gyfle yn dilyn record ddiguro o ddeg gêm yn olynol yn y Bencampwriaeth.

Mae Jones wedi cael ei gynnwys ar y rhestr fer yn ogystal â rheolwr Newcastle Utd, Chris Hughton a enillodd y Bencampwriaeth dydd Sadwrn diwethaf.

Mae rheolwr Blackpool, Ian Holloway, a rheolwr Caerlŷr, Nigel Pearson, hefyd ar y rhestr fer.

Mae Whittingham wedi bod yn allweddol yn llwyddiant Caerdydd ac fe sgoriodd gôl yn erbyn Sheffield Wednesday y penwythnos diwethaf.

Fe fydd Peter Whittingham yn cystadlu yn erbyn Gary Hooper o Scunthorpe, y Cymro, Andy King o Gaerlŷr a chwaraewr Newcastle Utd Kevin Nolan am wobr chwaraewr y mis.