Mae’r achos treisio yn erbyn tad merch a gafodd ei llofruddio yng Ngwlad Thai wedi ei ollwng.

Ar ôl cais gan ei gyfreithwyr, penderfynodd y Barnwr gofnodi dedfryd o ddieuog yn erbyn
Ian Horton, 56, o’r Llys-faen yng Nghaerdydd.

Roedd wedi gwadu dau gyhuddiad o dreisio merch.

Cafodd merch Ian Horton, Katherine, 21 oed, ei lladd Ddydd Calan 2006 wrth deithio ar ynys Koh Samui.

Yn yr achos hwnnw cafodd y pysgotwyr Bualoi Posit a Wichai Somkhaoyai eu dedfrydu i fywyd yn y carchar, am lofruddio a threisio’r fyfyrwraig seicoleg.