Mae amddiffynnwr Caerdydd, Kevin McNaughton, yn dweud ei bod hi’n bwysig i’r clwb gynnal eu momentwm wrth baratoi ar gyfer y gêmau ail gyfle.
Mae’r Adar Glas eisoes wedi sicrhau eu lle yn y rheiny, ond mae’r Albanwr yn ymwybodol bod angen cyrraedd yno ar gefn perfformiadau da yn eu gêm arferol olaf.
“Mae hanes yn dangos mai’r tîm sy’n chwarae orau cyn y gêmau ail gyfle sy’n mynd ‘
ymlaen i ennill dyrchafiad,” meddai wrth bapur newydd yr Echo. “R’yn ni’n benderfynol mai ni fydd y tîm hwnnw’r tymor hwn.”
Fe fydd Caerdydd yn wynebu Derby ddydd Sul a nhwthau heb golli unwaith yn eu deg gêm diwethaf.
“Fe fydd pawb yn canolbwyntio ar y gêm yn erbyn Derby cyn dechrau meddwl am bwy fyddwn ni’n eu hwynebu yn y gêmau ail gyfle,” meddai Kevin McNaughton.
Seibiant
Mae’n debygol y bydd rheolwr Caerdydd, Dave Jones yn rhoi seibiant nifer o brif chwaraewyr y clwb ar gyfer y gêm yn erbyn Derby.
Er gwaethaf hynny, mae McNaughton wedi dweud ei bod yn bwysig iawn i Gaerdydd sicrhau’r trydydd neu bedwerydd safle yn y Bencampwriaeth.
Fe fyddai hynny’n golygu bod clwb y brifddinas yn cael chwarae ail gymal rownd gyn derfynol y gêmau ail gyfle yn Stadiwm Dinas Caerdydd ac mae hynny’n rhoi mantais iddyn nhw.