Fe fydd bandiau Cymraeg yn chwarae o leiaf “un o nosweithiau” Gŵyl y Faenol, meddai Rheolwr Cyhoeddusrwydd yr Ŵyl wrth Golwg360 heddiw.

Ond doedd Angharad Wynne ddim yn fodlon cadarnhau a fyddai noson Tân y Ddraig yn benodol ar gyfer bandiau Cymraeg.

Dywedodd wrth Golwg360 “nad oes mwy o wybodaeth na hynny ar hyn o bryd”. Y disgwyl yw y bydd y rhestr perfformwyr yn cael ei gyhoeddi adeg lansiad swyddogol.

Ar newydd wedd

Mae bellach dan adain cwmni mawr Universal ac fe fydd ar newydd wedd ar ôl iddi orfod cael ei chanslo y llynedd.

Eisoes, mae Syr David Henshaw, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Gŵyl y Faenol wedi dweud bod “strwythur newydd” i’r ŵyl eleni.

“…rydym yn hyderus mai 10fed Gŵyl Faenol Bryn Terfel fydd yr orau eto. Rydan ni’n edrych ymlaen at gyhoeddi’r manylion llawn yn ystod yr wythnosau nesaf,” meddai.

Mae’r Ŵyl yn dathlu ei degfed pen-blwydd eleni. Bydd yn cael ei chynnal yn Ystâd y Faenol ger Caernarfon a Bangor rhwng 27 a 30 o Awst.