Wrth gyflwyno grŵp o’r Blaenau un tro, mi ddywedodd y Prifardd Twm Morys: “Y band gyda’r basydd dela’, Estella.”
Am Robi Buckley, basydd Gwibdaith Hen Frân, yr oedd Twm Morys yn cynganeddu yn ei linc teledu.
Bryd hynny Robi Buckley oedd basydd talsyth Estella, yn chware’n fronnoeth ar lwyfan gyda’r merched yn ffoli ar ei gyhyrau tynn.
Bum mlynedd lawr y lôn ac mae Robert Ifan Buckley unwaith eto’n aelod o fand hynod boblogaidd o’r Blaenau.
Ond mae wedi cyfnewid ei gitâr fâs drydanol roedd yn ei chwarae gydag Estella, am y bâs dwbwl sy’n rhan annatod o ddelwedd ecsentrig Gwibdaith Hen Frân.
Ac ar eu halbym newydd, Llechen Wlyb, mae gan Robi Buckley ei ganeuon ei hun.
Mae ‘Ble aeth y miwsig?’ yn gân o’r galon, yn dangos i bawb fod ganddo lais hyfryd a dawn cyfansoddi.
Er ei fod yn cwyno am ddiffyg caneuon da ar y radio – cwyn sy’n hynod o berthnasol heddiw – mae ‘Ble’r aeth y miwsig?’ yn hen gân gafodd ei chyfansoddi flynyddoedd nôl.
“Wnes i sgwennu hi adeg oedd Take That ac East 17 ar y radio, pan oedd pop shit ar y radio,” meddai Robi Buckley, sy’n 29 oed ac yn gweithio i gwmni Stromflex ei dad yn adfer toeau.
Gweddill y stori yn Y Babell Roc, Golwg, Ebrill 29