Mae angen dathlu cyfraniad y bardd a’r heddychwr enwog, Waldo Williams, i Gymru yn ôl ei edmygwyr.
Mae pobol Mynachlog Ddu yn Sir Benfro wedi dod at ei gilydd a sefydlu Cymdeithas Waldo, er cof am fardd enwoca’r sir.
Un o’u hamcanion yw galw diwrnod geni Waldo Williams, Medi 30, yn ‘Ddiwrnod Cofio Waldo’.
“I gofio’r bardd mwya’ y mae Cymru, yn fy marn i, wedi cael y fraint o’i gael,” meddai Alun Ifans o Gymdeithas Waldo, cyn-brifathro Ysgol Cas-Mael yn Sir Benfro.
Mae’r Gymdeithas wedi llythyru pob papur bro a chylchgrawn, ac yn annog ysgolion a chymdeithasau trwy Gymru i wneud rhywbeth i gofio am y bardd ar ddiwrnod ei ben-blwydd.
Fe hoffai Alun Ifans i’r diwrnod fod yn debyg i Burns’ Night yn yr Alban, sy’n dathlu gwaith y bardd Robert Burns.
“Fel sy’n digwydd mewn gwledydd eraill, baswn i’n hoffi gweld datblygiad yn dod lle ein bod ni’n dathlu trwy Gymru,” meddai.
Gweddill y stori yn Golwg, Ebrill 29