Mae AS Ynys Môn, Albert Owen, wedi dweud ei fod o’n dawel hyderus y bydd yn dal ei afael ar y sedd wedi’r etholiad cyffredinol.

Mae’r bwcis yn dweud mai Plaid Cymru sydd fwyaf tebygol o ennill y sedd ond mae’r Aelod Seneddol yn dweud ei fod o’n gwerthu ei hun fel y dyn dros yr ynys, yn hytrach na dyn y Blaid Lafur.

Diffyg swyddi a’r bygythiad i gau pyllau nofio sy’n poeni pobol yr Ynys, meddai’r Aelod Seneddol o Gaergybi.

Ac ar adeg pan fo’r Blaid Lafur trwy Brydain ar i lawr, mae Albert Owen yn cyfaddef ei fod yn help garw iddo fod Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr yn rhan o’r glymblaid amhoblogaidd sy’n arwain Cyngor Môn.

“Maen nhw’n dweud un peth yn y cyngor sir – mae’r Arweinydd Plaid Cymru wedi dweud ei fod eisiau cau lawr y Ganolfan Hamdden, er enghraifft. Mae hwnna’n bwysig i iechyd pobol,” meddai.

“Ond mae’r ymgeisydd [Plaid Cymru] yn trio dweud ei fod o blaid eu cadw nhw ar agor.”

Mae polisi’r Blaid o wrthwynebu atomfeydd niwclear hefyd yn fêl ar fysedd Albert Owen.

“Camgymeriad Plaid ydi trio sefyll yn lleol gan ddweud eu bod nhw o blaid Wylfa B, ond mae eu polisi nhw’n gadarn yn erbyn. Tydi hynny ddim yn serious politics,” meddai.