Byddai plaid asgell dde eithafol y BNP yn talu £50,000 i bawb sy’n cytuno i adael Prydain am ei bod wedi mynd “yn rhy llawn”, cyhoeddodd arweinydd y blaid heddiw.
Dywedodd Nick Griffin y byddai hyd at 180,000 o bobol y flwyddyn “sydd ddim yn wynion Prydeinig” yn gadael y wlad pe bai’r polisi yn cael ei gwneud yn gyfraith.
Ychwanegodd y byddai drysau’r wlad yn cael eu cau, ond y byddai’n gadael unrhyw un i mewn a fyddai “o fudd i Brydain”, fel ffisegwyr gyda sgiliau arbennig.
“Bydd y drysau’n cael eu cau oherwydd bod Prydain yn llawn. Ni yw’r wlad fwyaf llawn yn Ewrop,” meddai wrth raglen Today BBC 4.
“Os ydych chi’n siarad am blymwyr o Wlad Pwyl, neu ffoaduriaid o Afghanistan, bydd y drws ar gau. Fydd y drysau’n agor pan mae ’n siwtio Prydain a’i phobol. Mae hynny’n ddigon teg.”
Dywedodd y byddai’n rhaid dileu ambell gytundeb rhyngwladol er mwyn dod a’r polisi mewnfudo presennol i ben.
“Dydyn nhw ddim o les i Brydain na phobol Prydain. Prosiect gan yr elit gwleidyddol yw’r rhyngwladoliaeth yma,” meddai.