Mae disgwyl i Tottenham gynnig dyblu cyflog y cefnwr Gareth Bale er mwyn rhwystro rhai o brif glybiau Ewrop rhag arwyddo’r Cymro ddiwedd y tymor.

Roedd Man Utd wedi dangos diddordeb yn chwaraewr rhyngwladol Cymru cyn iddo symud i Spurs o Southampton yn 2007. Ac mae Alex Ferguson yn awyddus i geisio denu Bale i Old Trafford unwaith eto.

Mae’r Cymro wedi cael cyfnod gorau ei yrfa yn ystod y misoedd diwetha’ gyda rheolwr Spurs, Harry Redknapp, yn awgrymu bod ganddo’r gallu i fod yn un o chwaraewyr gorau’r byd.

Mae yna nifer o adroddiadau ym mhapurau newydd yr Eidal yn cysylltu Bale gyda rhai o gewri Serie A, sy’n cynnwys Juventus, AC Milan, Roma ac Inter Milan.

Harry ddim eisiau gwerthu

Ond dyw Harry Redknapp ddim yn awyddus i golli rhai o sêr ei dîm wrth iddyn nhw geisio cystadlu gyda phrif glybiau’r Uwch Gynghrair a chynnig am le ym mhrif gystadleuaeth Ewrop.

“Fyddai o ddim yn gwneud synnwyr gwerthu chwaraewr fel Gareth,” meddai Harry Redknapp.

“Gareth yw dyfodol y clwb yma. Nid fi sy’n penderfynu, ond dw i’n gwybod na fyddai’r cadeirydd eisiau ei werthu.”

Fe fydd Spurs yn cynnig cytundeb newydd i’r Cymro gwerth tua £50,000 yr wythnos a fydd yn rhoi Bale ar yr un lefel cyflog â chwaraewyr fel Jermaine Defoe, Ledley King a Jonathan Woodgate.