Mae 18 o bobl wedi’u cyhuddo ar ôl protest ar linell reilffordd y tu allan i safle glo brig Ffos y Fran, ym Merthyr Tudful.

Fe gadarnhaodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain eu bod wedi arestio 11 o ddynion a 7 merch rhwng 21 a 55 blwydd brynhawn dydd Llun ar ddau safle gwahanol a’u bod bellach wedi eu cyhuddo o rwystro rheilffordd yn fwriadol.

Roedd criw wedi ymgynnull ar y safle i geisio atal trenau glo rhag teithio o’r gwaith glo brig i orsaf bŵer Aberddawan ym Mro Morgannwg.

Mae wyth o’r rhai a arestiwyd yn dod o Fryste, un o Gaerfaddon ac un o Swindon. Mae’r wyth arall wedi gwrthod rhoi manylion eu cyfeiriadau i’r Heddlu.

Mae’r 18 wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth i ymddangos yn Llys Ynadon Merthyr ymhen ychydig llai na phythefnos. Y gosb fwyaf bosib am drosedd o’r fath yw carchar am oes.