Cafodd dyn ei achub ar ôl i’w gwch redeg allan o betrol. Roedd yn meddwl ei fod yn teithio o amgylch arfordir Prydain – er ei fod o mewn gwirionedd yn teithio o amgylch ynys fechan.

Bu’n rhaid i Wylwyr y Glannau achub y morwr coll ger Ynys Sheppey yng Nghaint.

Roedd wedi ceisio hwylio o Gillingham i Southampton heb unrhyw offer mordwyo a dim ond map ffordd i’w helpu.

Er ei fod yn credu ei fod yn teithio hyd yr arfordir, mewn gwirionedd roedd wedi bod yn mynd rownd a rownd yr un ynys.

“Roedd wedi taro’r lan ar ôl rhedeg allan o betrol,” meddai llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau.

“Roedd yn ceisio teithio o amgylch Prydain ond fe aeth ar goll a theithio o amgylch Ynys Sheppey yn lle hynny. Doedd ganddo ddim o’r siartiau na’r offer arferol.”

Ychwanegodd bod y dyn wedi ceisio parhau ei daith i Southampton ar ôl ail lenwi’r cwch gyda phetrol.