Mae cannoedd o bysgotwyr yn ogystal â pherchnogion gwestai a bwytai wedi dweud eu bod nhw’n ofni y bydd eu busnesau yn cael eu difetha wrth i glwt olew anferth gyrraedd arfordir America.

Mae llywodraeth yr Unol Daleithiau yn rhagweld y bydd yr olew, sy’n gollwng o bibell oddi ar arfordir Mississippi, yn cyrraedd yr arfordir o fewn dyddiau.

Mae yna beryg y bydd o’n difetha corstiroedd sy’n gartref i anifeiliaid prin, yn ogystal â thraethau gwyn glan.

Dechreuodd yr olew ollwng ar ôl ffrwydrad ar blatfform olew Deepwater Horizon ar 20 Ebrill. Mae 11 o weithwyr dal ar goll a does dim cadarnhad eto ynglŷn â beth achosodd y ffrwydrad.

‘Y peth gwaethaf posib’

Mae Louis Skrmetta, 54 oed, yn rhedeg busnes o’r enw Ship Island Excursions sy’n mynd a thwristiaid ar deithiau ar hyd arfordir y Gwlff.

“Dyma’r peth gwaethaf posib all ddigwydd i arfordir Mississippi,” meddai.

“Fe fydd o’n difetha’r diwydiant wystrys. Fydd y diwydiant berdys ddim yn dod yn ôl am flynyddoedd. Fe fydd o’n lladd twristiaeth. Dyma ein bywoliaeth ni.”

Wrth i’r clwt olew ledu dywedodd gwylwyr y glannau eu bod nhw’n ystyried rhoi’r dyfroedd ar dân er mwyn llosgi’r olew crai. Ond mae yna bryderon y gallai gwyntoedd cryf y môr chwythu’r mwg i gyfeiriad yr arfordir.

“Os nad ydan ni’n atal yr olew rhag gollwng mae’n bosib mai dyma fydd y clwt olew mwyaf yn hanes yr Unol Daleithiau,” meddai Mary Landry o wylwyr y glannau.