Mae arbenigwyr ar losgfynyddoedd Ewrop wedi rhybuddio bod un arall mewn peryg o ffrwydro.
Dywedodd arbenigwyr o’r Eidal eu bod nhw’n pryderu ynglŷn â llosgfynydd Ischia, ynys wyliau ger Napoli, sy’n enwog am ei ffynhonnau o ddŵr poethi.
Yn ôl Guido Bertolaso, pennaeth asiantaeth ddiogelwch yr Eidal, mae magma wedi bod yn cronni dan Ischia, sydd heb ffrwydro ers 700 mlynedd.
Dywedodd nad oedd ffrwydrad yn agos, ond “pe bai’n rhaid i fi ddweud pa losgfynydd oedd fwyaf tebygol o danio,” byddai’n dewis Ischia, meddai.
Mae Ischia o fewn taith fer mewn cwch o Napoli ac fel arfer yn llawn o dwristiaid o’r Eidal ac o dramor sydd eisiau ymlacio yn y dŵr cynnes yno.
Dywedodd Guido Bertolaso bod “siambr magma Ischia yn llenwi” ac y byddai ffrwydrad yn “waeth na ffrwydrad Vesuvius” – y llosgfynydd a daniodd yn 79 AD a chwalu dinas Pompeii.
Roedden nhw hefyd yn pryderu am Vesuvius ei hun, meddai, yn enwedig gan fod tua 500,000 o bobol bellach yn byw ar lethrau’r llosgfynydd.
Ffrwydrodd Vesivius yn 1944, a phe bai hynny’n digwydd eto byddai’n rhaid symud tua miliwn o bobol o ddinas Napoli a’r wlad o’i hamgylch, meddai.