Mae batwyr Morgannwg wedi manteisio ar ddechrau da eu bowlwyr i roi’r sir ymhell ar y blaen i Worcestershire ar ddiwedd diwrnod cynta’u gêm yng Nghaerwrangon.

Erbyn diwedd y dydd, roedden nhw’n nesu at fod 100 ar y blaen ar 228 am 4 – 134 oedd cyfanswm y tîm cartre’.

Nhw oedd wedi dewis batio gynta’ a chael ail wrth i’r bowliwr cyflym, David Harrison, gael ei ffigurau gorau erioed gyda 7 wiced am 45.

Roedd yna ddwy i James Harris hefyd gan ei roi o fewn tair wiced i dorri record Robert Croft o fod y chwaraewr ieuenga’ i gipio 100 wiced i Forgannwg.

Batiad Morgannwg

I Jim Allenby yr aeth y wiced arall ac ef oedd un o’r arwyr gyda’r bat wrth rasio tua’i hanner cant ar ddiwedd y dydd.

Ben Wright oedd y llall – ef oedd asgwrn cefn y batiad gan orffen ar 71 heb fod allan. Roedd Allenby ar 49 a’r ddau fel ei gilydd wedi sgorio wyth pedwar. Roedd yna un chwech i Wright.

Moeen Munir Ali oedd yr unig fatiwr i wneud marc tros Gaerwrangon gydag 85 heb fod allan.

Mae’r maes yn ymateb i’r bowlwyr cyflym ond, yn y diwedd, fe benderfynodd hyfforddwr Morgannwg, Matthew Maynard, gynnwys y troellwr Dean Cosker yn yr 11.

Llun: David Harrison – ei ffigurau gorau erioed