Dim ond un dyn all guro Ronnie O’Sullivan ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd, yn ôl y Cymro, Mark Williams.
Y dyn hwnnw yw Ronnie O’Sullivan ei hun, meddai’r chwaraewr o Went ar ôl colli 13-10 i’r roced.
Dim ond chwarae ardderchog gan y Sais oedd yn ddigon i ennill y gêm ail rownd ar ôl i Williams fod ar y blaen o 8-6.
“Roedd hi’n gêm ardderchog i fod yn rhan ohoni,” meddai. “Dw i ddim yn meddwl y byddai neb arall wedi gallu clirio fel y gwnaeth ddwywaith neithiwr – yn enwedig o ystyried pa mor hawdd yr oedden nhw’n edrych ganddo. Roedd yn anhygoel.
“Bob tro yr o’n i’n meddwl fy mod yn ei roi dan bwysau, roedd yn gwneud rhywbeth arbennig.”
Llun: Ronnie O’Sullivan (Cheddar Classics CU)