Mae’n bosib y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn gofyn am yr hawl i osod isafswm pris ar unedau o alcohol.
Mewn datganiad ym Mae Caerdydd heddiw, fe ddywedodd y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, y bydd rhaid ystyried gwneud hynny, os na fydd gweithredu’n digwydd “yn fuan iawn” ar lefel Brydeinig.
Mae hi a Phrif Swyddog Meddygol Cymru, Tony Jewell, yn credu y byddai gosod isafswm pris am bob uned yn arbed cannoedd o fywydau bob blwyddyn.
‘Arbed bywydau’
“Fe allai gosod pris o rhwng 40c a 50c am bob uned o alcohol arwain at ostwng nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol o rhwng 20 a 25%,” meddai Edwina Hart.
“Fe fyddai hynny’n cyfateb i rhwng 200 a 250 yn llai o farwolaethau bob blwyddyn ar ôl deng mlynedd.”
Ar hyn o bryd, meddai, mae modd prynu alcohol mewn rhai llefydd am gyn lleied ag 11c yr uned – fel bod merch yn gallu yfed tair gwaith y lefel ddiogel am lai na phunt.
Galw am weithredu
Mae’r Llywodraeth yng Nghymru wedi sgrifennu fwy nag unwaith at y Llywodraeth yn Llundain i geisio cael gweithredu yn y maes. Maen nhw eisiau:
• Rheolau llymach tros hysbysebu alcohol.
• Ystyried gosod isafswm pris er mwyn lleihau’r defnydd o alcohol.
• Codi trethi uwch, gan gysylltu lefel treth â lefel alcohol.
Does gan Lywodraeth y Cynulliad ddim o’r pwerau i weithredu ond fe wnaeth Edwina Hart eu bod yn ystyried gofyn am y grym i wneud hynny.
Yr ystadegau
Fe gyhoeddodd y Gweinidog nifer o ystadegau eraill i ddangos maint y broblem y mae alcohol yn ei achosi:
• Mae 45% o oedolion Cymru’n yfed mwy na’r lefelau diogel o leia’ unwaith yr wythnos.
• Mae mwy na 25% yn yfed yn wyllt o leia’ unwaith bob wythnos.
• Alcohol sy’n gyfrifol am rhwng 3 a 5% o absenoldebau o’r gwaith.
• Mae tua 1,000 o bobol yng Nghymru yn marw oherwydd alcohol bob blwyddyn.
• Mae hanner yr achosion o drais yng Nghymru’n gysylltiedig ag alcohol.
• Mae’n costio rhwng £70 ac 85 miliwn bob blwyddyn i’r Gwasanaeth Iechyd.