Fe fydd gan y Seintiau Newydd brinder blaenwyr heno wrth iddyn nhw fynd am y dwbl.
Maen nhw’n gobeithio curo’r Rhyl i ddal eu gafael ar Gwpan Cynghrair Loosemores ac ychwanegu at eu llwyddiant yn cipio’r Uwch Gynghrair ddydd Sadwrn,.
Chaiff eu prif sgoriwr, Chris Sharp, ddim chwarae oherwydd ei fod wedi ymddangos tros Fangor ynghynt yn y tymor.
Roedd Craig Whitfield hefyd wedi chwarae tros Dderwyddon Cefn pan oedd ar fenthyg gyda nhw.
Y trydydd yw Matthew Berkeley a oedd wedi anafu ei ysgwydd yn y fuddugoliaeth o 4-0 yn erbyn Hwlffordd wythnos yn ôl.
Yr un blaenwr rheolaidd sy’n sicr ar gael yw James Wood.
Ond mae ganddyn nhw reswm ychwanegol tros fod eisiau ennill ar ôl i’w rheolwr, Andy Cale, benderfynu gadael. Mike Davies fydd yn cymryd ei le.
Llun: Chwaraewyr y Seintiau Newydd yn dathlu (o wefan y clwb)