Mae grŵp newydd wedi ei ffurfio ar wefan Facebook yn sgil honiadau fod papur newydd mwya’ Cymru wedi cyhoeddi llun o’r person anghywir gyda stori am gam-drin plant yn Abertawe.

Mae mwy na thair mil o bobol wedi ymuno â’r grŵp ‘Wrong Rob’ ar wefan rhyngweithio Facebook gan feirniadu’r South Wales Evening Post am gyhoeddi llun y Rob Stevens anghywir gyda stori dudalen flaen am achos llys yn ymwneud â cham-drin plant.

Maen nhw’n honni fod gweithiwr ar y papur wedi dod o hyd i lun person o’r enw Rob Stevens ar Facebook ac wedi defnyddio hwnnw, heb wneud yn siŵr mai dyna’r Rob Stevens iawn.

Mae rhai hefyd wedi lledu’r feirniadaeth i alw am rwystro papurau rhag cyhoeddi manylion am droseddwyr heb dystiolaeth ddiogel ac mae crewr y tudalennau’n dweud bod angen lledu’r wybodaeth er mwyn clirio enw’r dyn diniwed.

Mae’r stori wedi cael ei thynnu oddi ar wefan y papur erbyn hyn ac mae’r papur wedi cyhoeddi ymddiheuriad yn nodi eu bod wedi cyhoeddi llun y dyn anghywir.

Dywedodd llefarydd ar ran Golygydd y ‘South Wales Evening Post’ wrth Golwg360 na fedran nhw gynnig sylwadau gan fod y mater yn nwylo cyfreithwyr.