Mae swyddogion clwb Llanelli’n dathlu ar ôl iddyn nhw osgoi cosb ar ôl i gefnogwyr fihafio’n hiliol.
Fe benderfynodd panel disgyblu o Gymdeithas Bêl-droed Cymru nad oedd yr achos wedi’i brofi yn erbyn y clwb.
Roedd Llanelli wedi ymddiheuro ar unwaith ar ôl honiadau bod rhai o’u cefnogwyr wedi gweiddi pethau hiliol at un o flaenwyr Port Talbot.
Roedden nhw wedi addo gwahardd y cefnogwyr cyfrifol ar ôl i un o swyddogion y Gymdeithas anfon adroddiad.
Wedi’r gwrandawiad, fe ddywedodd y clwb eu bod nhw “wrth eu bodd” a’u bod bellach yn gallu canolbwyntio ar baratoi at gemau yn Ewrop ym mis Gorffennaf.